Rheoli effeithlonrwydd ynni mewn gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau

URN: LANWFS14
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gwasanaethau'r Gweithle a Chyfleusterau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 2020

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymdrin â rheoli effeithlonrwydd ynni o fewn amgylchedd gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau. Mae’n golygu nodi a deall gofynion ynni’r sefydliad a sut y gellir gwneud gwelliannau i’r ffordd y defnyddir ynni ar draws gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau a ddarperir. Mae’n ymwneud â datblygu strategaethau effeithiol ar gyfer rheoli ynni a sicrhau bod y rhain yn gynaliadwy ar gyfer amrywiaeth o asedau, gan gynnwys adeiladau a thrafnidiaeth. Mae hefyd yn ymwneud â chydnabod pwysigrwydd defnyddio ffynonellau ynni adnewyddadwy, lleihau ôl troed carbon y sefydliad, cyflwyno mesurau effeithlonrwydd ynni a chyfleu’r rhain i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau a’r rheini sy’n gysylltiedig ac yr effeithir arnynt.
Er mwyn rheoli effeithlonrwydd ynni mae’n rhaid deall a chydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol presennol a chynllun busnes, strategaethau, systemau, gweithdrefnau a pholisïau’r sefydliad, gan gynnwys arbedion effeithlonrwydd busnes ac arferion cynaliadwy.
Mae’n bwysig eich bod yn gwybod ac yn deall eich cyfrifoldebau o dan y ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch bresennol, codau ymarfer a pholisïau’r sefydliad.
Mae’r safon hon yn berthnasol i’r rhai sy’n darparu gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau - gall hyn fod i gleient mewnol (yn eich sefydliad) neu i gleient allanol; cyfeirir at y ddau fel y “sefydliad” o fewn y safon hon.
Bydd gofyn i reolwyr ar y lefel hon hybu gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau yn y sefydliad.
Mae’r safon hon yn cysylltu â’r gyfres safonau Rheoli Cyfleusterau a’r gyfres safonau Rheoli ac Arwain a reolir gan Instructus.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1. gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch gyfredol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau’r sefydliad, gan gynnwys arbedion effeithlonrwydd busnes ac arferion cynaliadwy
2. nodi ac asesu gofynion ynni yn unol â’r gofynion cyfreithiol presennol a pholisïau arbedion effeithlonrwydd busnes ac arferion cynaliadwy’r sefydliad fel rhan o'r gwaith o ddarparu holl wasanaethau'r gweithle a chyfleusterau
3. nodi eich cyfrifoldebau a’ch rhwymedigaethau personol ar gyfer rheoli effeithlonrwydd ynni o dan y ddeddfwriaeth bresennol ac amcanion, systemau, polisïau a gweithdrefnau’r sefydliad, gan gynnwys arbedion effeithlonrwydd busnes ac arferion cynaliadwy
4. nodi mesurau rheoli defnydd o ynni’r sefydliad a fydd yn helpu i ddiwallu anghenion y sefydliad am arferion cynaliadwy, gan gynnwys effeithlonrwydd ynni
5. rhoi gwybod i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau a’r rhai sy’n gysylltiedig ac yr effeithir arnynt ynglŷn â manteision hirdymor gwella effeithlonrwydd ynni adeiladau, cyfleusterau ac arferion
6. cyfrannu at ddatblygu strategaethau sy’n gynaliadwy ac sy’n ystyried yr arferion gorau ar gyfer rheoli effeithlonrwydd ynni
7. cadarnhau bod y ffynonellau ynni a ddefnyddir yn adnewyddadwy ac yn gynaliadwy, lle bo hynny’n bosibl, gan reoli’r costau, y gofynion rheoleiddiol a chyfreithiol ar yr un pryd
8. asesu costau, risgiau a chyfleoedd y camau arfaethedig
9. cynnal adolygiadau rheolaidd o adeiladau, cyfleusterau ac arferion er mwyn canfod lle gellir gwella arbedion effeithlonrwydd busnes ac arferion cynaliadwy
10. sefydlu a chadarnhau bod y rhai sy’n gyfrifol am gaffael yn ystyried arbedion effeithlonrwydd busnes ac arferion cynaliadwy, gan gynnwys effeithlonrwydd ynni, fel blaenoriaeth, gan gynnwys deunyddiau a defnydd, adeiladwaith adeiladau ac inswleiddio
11. cadarnhau bod materion arbedion effeithlonrwydd busnes ac arferion cynaliadwy, gan gynnwys mesurau effeithlonrwydd ynni ac effaith amgylcheddol, yn cael eu hystyried wrth asesu hyfywedd a chynaliadwyedd adeiladau, cyfleusterau ac arferion newydd a rhai sy’n bodoli eisoes
12. cyfathrebu â phawb sydd â chysylltiad neu y mae’r manteision o gefnogi arbedion effeithlonrwydd busnes ac arferion cynaliadwy yn effeithio arnynt
13. cadarnhau bod y sefydliad yn gweithredu o fewn y gofynion cyfreithiol a’r cyfrifoldebau cymdeithasol presennol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1. eich cyfrifoldebau o dan y ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch gyfredol, codau ymarfer a pholisïau’r sefydliad, gan gynnwys arbedion effeithlonrwydd busnes ac arferion cynaliadwy
2. y gofynion rheoleiddiol a chyfreithiol cyfredol ar gyfer rheoli effeithlonrwydd ynni
3. y gofynion rheoli effeithlonrwydd ynni yn y strategaeth gyffredinol ar gyfer gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau sy’n unol â pholisïau arferion cynaliadwy ac arbedion effeithlonrwydd busnes y sefydliad, ac sy’n eu cefnogi
4. sut mae canfod gofynion ynni mewn gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau
5. sut mae cysylltu gweithgareddau rheoli effeithlonrwydd ynni mewn gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau â gofynion ynni’r sefydliad
6. eich cyfrifoldebau a’ch rhwymedigaethau personol ar gyfer rheoli effeithlonrwydd ynni o dan y ddeddfwriaeth bresennol ac amcanion, strategaethau, systemau, polisïau a gweithdrefnau’r sefydliad, gan gynnwys arbedion effeithlonrwydd busnes ac arferion cynaliadwy
7. y mesurau rheoli defnydd o ynni sydd ar gael a fydd yn helpu i ddiwallu anghenion y sefydliad am arferion cynaliadwy, gan gynnwys rheoli ynni
8. sut i ganfod arferion gorau wrth reoli effeithlonrwydd ynni
9. pwysigrwydd rhoi strategaethau cynaliadwy ar waith ar gyfer rheoli effeithlonrwydd ynni
10. ffynonellau ynni adnewyddadwy a chynaliadwy a phwysigrwydd defnyddio’r rhain
11. y ffactorau i’w hystyried wrth adolygu adeiladau, cyfleusterau ac arferion er mwyn canfod lle gellir gwella effeithlonrwydd busnes ac arferion cynaliadwy
12. costau, risgiau a chyfleoedd y camau arfaethedig
13. pwysigrwydd cadarnhau bod y rhai sy’n gyfrifol am gaffael yn ystyried arbedion effeithlonrwydd busnes ac arferion cynaliadwy, gan gynnwys effeithlonrwydd ynni, fel blaenoriaeth
14. dulliau cyfathrebu â’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau a phawb sydd â chysylltiad neu y mae’r manteision o wneud gwelliannau i a chefnogi arbedion effeithlonrwydd busnes ac arferion cynaliadwy yn effeithio arnynt
15. y cyfrifoldeb dros reoli gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau yn unol â’r gofynion cyfreithiol presennol a’r cyfrifoldebau cymdeithasol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Arbedion effeithlonrwydd busnes
Mae hyn yn ymwneud â rheoli adnoddau fel dŵr mewn ffordd gynaliadwy, defnyddio ynni’n effeithlon a rheoli gwastraff yn unol â pholisïau arbedion effeithlonrwydd busnes y sefydliad sy’n ceisio gwella effeithlonrwydd gweithredol. Mewn busnes, mae effeithlonrwydd yn cyfeirio at gynhyrchu nwyddau neu gynnig gwasanaethau drwy ddefnyddio’r swm lleiaf o adnoddau, fel cyfalaf, ynni ac ati. Gall busnesau effeithlon greu cynnyrch, cynnig gwasanaethau a chyflawni eu nodau cyffredinol gyda’r lleiaf posibl o ymdrech, traul neu wastraff.
Perfformiad gweithredol
Gellir mesur perfformiad sefydliad yn erbyn safon neu ddangosydd penodedig o effeithiolrwydd, effeithlonrwydd a chyfrifoldeb amgylcheddol megis amser, cynhyrchiant, lleihau gwastraff, a chydymffurfiaeth reoleiddiol.
Cyfrifoldebau cymdeithasol
Mae cyfrifoldebau cymdeithasol yn cyfeirio at fath o gynllun busnes hunanreoleiddiol a’r ymdrechion a wneir gan gwmni i wella cymdeithas a chyfrannu at ddatblygu cynaliadwy. Mae’n disgrifio mentrau sy’n cael eu rhedeg gan fusnes i werthuso a chymryd cyfrifoldeb dros eu heffaith ar faterion sy’n amrywio o hawliau dynol i’r amgylchedd.
Bydd y cynllun busnes yn canolbwyntio ar sicrhau manteision economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol i’r holl randdeiliaid cysylltiedig (cyflogeion, defnyddwyr, buddsoddwyr a grwpiau eraill). Ei bwrpas yw annog busnesau i redeg eu cwmnïau mewn ffordd foesegol a gweithio tuag at gael effaith fwy cadarnhaol ar gymdeithas drwy sicrhau twf cynaliadwy.
Arferion cynaliadw*y
Nodweddir arferion busnes cynaliadwy gan arferion amgylcheddol gyfeillgar a sbardunir gan sefydliad at ddibenion dod yn fwy cynaliadwy. Nod y sefydliadau yw lleihau eu hôl troed amgylcheddol drwy fentrau sy’n lleihau gwastraff, stiwardiaeth amgylcheddol wael ac arferion amgylcheddol anfoesol sy’n cynnig llai o gynaliadwyedd o fewn polisïau ac arferion y sefydliad.
Mae arferion busnes cynaliadwy’n amrywio ymysg diwydiannau ac maen nhw’n aml yn benodol i’r math o sefydliad a’r cynnyrch neu’r gwasanaeth mae’n ei gynhyrchu neu’n ei ddarparu.
Gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau
Gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau yw'r “swyddogaeth gyfundrefnol sy’n integreiddio pobl, lleoedd a phrosesau o fewn yr amgylchedd adeiledig gyda’r pwrpas o wella ansawdd bywyd pobl a chynhyrchiant y busnes craidd.” Mae gweithwyr proffesiynol ym maes gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau yn gyfrifol am wasanaethau sy’n galluogi ac yn cefnogi perfformiad busnes.
Mae gan bob sefydliad gyfrifoldebau o dan y rheoliadau iechyd, diogelwch a lles cyfredol er mwyn sicrhau iechyd, diogelwch a lles eu gweithwyr o ddydd i ddydd. Mae hyn yn cynnwys sicrhau y gwneir darpariaethau ar gyfer:
Gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau (gwasanaethau meddal)
*
•     Gwasanaethau meddal yw’r rhai sy’n gwneud y gweithle’n fwy dymunol neu ddiogel i weithio ynddo.
Enghreifftiau o wasanaethau meddal yw glanhau, arlwyo, diogelwch.

Rheoli Cyfleusterau (gwasanaethau caled)
•     Gwasanaethau caled yw’r rhai sy’n ymwneud â gwead ffisegol yr adeilad ac nad oes modd eu tynnu. Maen nhw’n sicrhau diogelwch a lles gweithwyr ac yn gyffredinol maen nhw’n ofynnol yn ôl y gyfraith.
Enghreifftiau o wasanaethau caled yw plymio, gwresogi a goleuo.
Ymdrinnir â gwasanaethau caled yn y gyfres Rheoli Cyfleusterau


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau Asedau

URN gwreiddiol

ASTFM418

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwr Ystadau, Rheolwr Eiddo, Rheolwr Gwasanaethau'r Gweithle a Chyfleusterau, Rheolwr Cyfleusterau, Rheolwr Gwasanaethau’r Gweithle, Rheolwr Gwasanaethau Meddal, Rheolwr Asedau, Landlord, Pennaeth Cyfleusterau

Cod SOC

1251

Geiriau Allweddol

rheoli cyfleusterau; gwasanaethau’r gweithle; effeithlonrwydd busnes; arferion cynaliadwy, effeithlonrwydd ynni